Porthol gwastraff masnach
Os ydych chi’n un o’n cwsmeriaid, gallwch ddefnyddio’r porthol i:
· ddefnyddio, adolygu a llofnodi eich nodyn trosglwyddo gwastraff a thelerau ac amodau eich contract,
· gweld a diweddaru eich manylion cyswllt, ac
· ychwanegu cysylltiadau newydd. Bydd angen i bob cyswllt gofrestru ar y porthol.
Bydd angen i chi greu cyfrif i lofnodi eich dogfen dyletswydd gofal. Bydd angen cyfrif arnoch hefyd i ofyn am wasanaethau ychwanegol, fel dosbarthu bagiau.
Ychwanegu Cysylltiadau i’r Porth
Mi fydd gan bob person rydych chi’n ei ychwanegu i’r porth cwsmeriaid fynediad llawn i’r holl nodweddion sydd ar gael. Dylech ystyried pwy yn eich busnes ddylai gael y mynediad hwn.
Os oes gan eich busnes sawl safle sy’n cael eu gwasanaethu gan Wastraff Masnach Caerdydd, bydd gan bob cyswllt rydych chi’n ei ychwanegu at y porth fynediad llawn i’r holl nodweddion ar gyfer pob safle.