Ydych chi’n fusnes sy’n cynhyrchu gwastraff gardd?
Gallwch arbed arian ar eich casgliadau gwastraff cyffredinol drwy fanteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd, tra’n cyfrannu at weithredu cadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd.
Trwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn gyda Gwastraff Masnach Caerdydd, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei droi’n adnodd gwerthfawr. Efallai y bydd hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau grwpiau cymunedol ac ysgolion, gyda gwastraff eich busnes yn cyfrannu at werth cymdeithasol ac amgylcheddol yn y Ddinas.
Cysylltwch â ni yn gwastraffmasnach@caerdydd.gov.uk i gofrestru heddiw. Gallwn gynnig biniau 240L neu 360L, a gesglir bob pythefnos ar ddydd Llun.
Byddwn yn treialu casgliadau gwastraff gardd ar gyfer busnesau dros y misoedd nesaf, a gobeithiwn y bydd ein cwsmeriaid yn manteisio i’r eithaf arnynt i’n galluogi i ehangu a pharhau â’r gwasanaeth.