Call 029 2087 xxxx

Llogi sgip

Er mwyn cefnogi amcanion Strategaeth Ailgylchu Caerdydd i gyflawni Dinas lanach a gwyrddach, nid ydym yn cynnig sgipiau ar gyfer gwastraff cymysg cyffredinol. Gofynnwn fod cwsmeriaid yn defnyddio’r gwasanaeth sgip ar gyfer ffrydiau gwastraff unigol yn unig, megis coed, pridd, rwbel, gwastraff gardd, metel sgrap neu blastrfwrdd.

Gallwn gynnig gwasanaeth llogi sgip am bris rhesymol i breswylwyr lleol a busnesau yng Nghaerdydd. Mae gennym ystod o feintiau sgip ar gael, o sgipiau adeiladwyr bychain i sgipiau rowlio arnynt, rowlio oddi arnynt, ar gyfer ystod o anghenion.

Gellir llogi’r sgipiau hyn fel gwasanaeth un tro neu’n rhan o gontract gyda chasgliadau rheolaidd.

Sgipiau Adeiladwyr

6 llath giwbig
Mesuriadau 3.1m (H) x 1.7m (Ll) x 1.1m (U)

£125 + TAW

Mae’r rhain yn addas ar gyfer projectau bach megis clirio’r cartref neu brojectau gwaith y cartref. Gallent ddod gyda neu heb gaead.

Efallai y bydd modd i ni gynnig meintiau sgip gwahanol ar gais.  Cysylltwch â ni os ydych am drafod eich opsiynau.

Sgipiau Rholio

Gall y sgipiau hyn fod yn agored, yn gaeëdig neu gyda chyfleusterau cywasgu.

Dim ond ar dir preifat y gellir storio sgipiau rholio ar gerbyd ac oddi arno ac nid ydynt yn addas ar gyfer y briffordd gyhoeddus.

Skip Hire - 20 cubic yard Roll on Roll off skip

20 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.2m (H)

Skip Hire - 30 cubic yard Roll on Roll off skip

30 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.8m (H)

Skip Hire - 40 cubic yard Roll on Roll off skip

40 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 2.4m (H)

Trwyddedau Sgipiau

Os ydych yn cynnig cael sgip ar y briffordd, bydd angen trwydded arnoch ond gallwn helpu i hwyluso hyn yn rhan o’r gwasanaeth. Gallwn hefyd gynnig conau a goleuadau i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r drwydded.

Rhagor o wybodaeth am drwyddedau sgipiau

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch, ni ddylid llenwi sgipiau'n uwch na'r lefel a nodir.

Mae hefyd rhai eitemau na ddylid eu rhoi mewn sgipiau:

  • Asbestos
  • Gwastraff clinigol a meddygol
  • Batris ac asidau
  • Deunyddiau perygl neu wenwynig
  • Llysiau’r Dial
  • Caniau paent, glud a thiwbiau mastig
  • Caniau chwistrellu neu boteli nwy
  • Bonau coed
  • Hylif yn cynnwys olew

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd