Call 029 2087 xxxx

Gwastraff Cyffredinol

Lle bo’n bosibl, dylai busnesau geisio gwahanu a gwaredu ar yr holl eitemau gwastraff ailgylchadwy a’r bwyd rhag y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Yna bydd modd casglu unrhyw wastraff sy’n weddill neu wastraff “cyffredinol” ar wahân.

Gallwn gasglu eich gwastraff cyffredinol mewn sawl cynhwysydd, yn dibynnu ar eich anghenion.

Lle bo’n bosibl, rydym yn argymell y dylai cwsmeriaid ddefnyddio biniau i storio gwastraff. Mae llawer o fanteision o gael biniau.

  • Hawdd eu symud
  • Hawdd eu cloi
  • Ffordd dda o leihau llygotach, arogleuon annifyr a diferiadau
  • Ffordd ddiogel o storio pethau siarp a gwydr wedi torri

Bagiau oren

General Waste - Orange bag

Gorau ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff neu sydd heb gyfleusterau storio; gwasanaeth casglu bagiau. Rydym yn rhoi bagiau gwastraff oren i’n cwsmeriaid ar gyfer gwastraff cyffredinol neu wastraff nad oes modd ei ailgylchu sy’n cael ei roi ar ymyl y ffordd i’w gasglu ar eich diwrnod casglu penodol.

Eich dewis chi yw sawl bag a ddefnyddiwch, a thalwch am y bagiau a rowch allan i’w casglu yn unig.

Biniau ag olwynion

Ar gyfer busnesau gyda man storio addas, gallwn gynnig ystod o feintiau biniau ar gyfer faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Gall pob bin ddod â chaead y gellir ei gloi.

General Waste 240L Bin

Bin 240L
Addas ar gyfer 3-4 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

General Waste 360L Bin

Bin 360L
Addas ar gyfer 4-5 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 620mm (Ll) x 850mm (D)

General Waste 660L Bin

Bin 660L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 8-10 o fagiau gwastraff
Mesuriadau: 1310mm (U) x 1260mm (Ll) x 730mm (D)

General Waste 1100L Bin

Bin 1100L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 15-18 o fagiau gwastraff
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)

Bydd costau pwysau gormodol yn berthnasol am wastraff sy’n fwy na’r isod:

 

Maint y bin Pwysau uchaf
240L 17KG
360L 25KG
660L 45KG
1100L 70KG

Gallwn ddarparu ar gyfer eich gofynion trwy wagio’r biniau hyn ar amserlen sy’n addas i chi. Codir tâl arnoch am bob lifft (neu gwagied) o’r bin, ac rydym yn cynnig gwasanaeth hyblyg lle mae’n hawdd gwneud cais am gasgliadau ychwanegol.
Gellir llogi neu brynu’r cynwysyddion hyn fel rhan o’r gwasanaeth.

Angen cynhwysydd mwy?

Gallwn hefyd gynnig sgipiau i waredu gwastraff cyffredinol, ar gyfer gwaith clirio un tro neu ar gyfer casgliadau rheolaidd.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd