Dyma fanteision gwahanu gwastraff bwyd:
- Lleihau problemau plâu a llygotach – bydd mynd â’r gwastraff bwyd allan o’r bagiau oren yn eu hatal anifeiliaid rhag eu rhwygo.
- Lleihau aroglau annifyr
- Arbed arian
- Mae’n fwy cynaliadwy
Cadi bwyd
Mae hyn yn fwyaf addas ar gyfer busnesau nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff bwyd. Gallwn gynnig cadi bwyd 35 litr gyda bagiau bioddiraddiadwy, ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd.

Cadi 35L
Mesuriadau 510mm (U) x 320mm (D) x 400mm (Ll)
Biniau ag olwynion
Ar gyfer cynhwysyddion gwastraff mwy, gallwn gynnig biniau ag olwynion. Oherwydd cyfyngiadau uchder, dim ond hyd at eu tri chwarter y gallwch lenwi’r biniau hyn.
Gallwn hefyd gynnig cadis bwyd llai i’w gwneud yn haws gwaredu.

240L
Cynhwysydd â dwy olwyn
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

500L
Cynhwysydd â phedair olwyn
Mesuriadau: 1050mm (U) x 1270mm (Ll) x 720mm (D)