Call 029 2087 xxxx

Ailgylchu

Bydd ailgylchu’n gywir yn arbed arian i chi, yn lleihau effaith carbon eich busnes ac yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd. Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau ar gael i gasglu eich ailgylchu ar wahân, a sicrhau ei fod yn aros ar wahân yn ystod y casgliad.

Ailgylchu 

Sachau Ailglychu

Anogir busnesau sydd heb lawer o gyfleusterau storio gwastraff ac ailgylchu i ddefnyddio ein gwasanaeth casglu sachau. Rydym yn darparu sach i gwsmeriaid ar gyfer cynwysyddion, a sach ar gyfer papur/cardfwrdd. Byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar ddiwrnod casglu ac amlder, yn seiliedig ar anghenion eich busnes.

Gall bagiau plastig untro hefyd fod ar gael i fusnesau ag anghenion penodol. Er enghraifft, y rhai heb unrhyw ddarpariaeth storio neu o fewn ardaloedd lle mae nifer uchel o ymwelwyr. Cysylltwch â ni i drafod.

Biniau Olwynion

Ar gyfer busnesau gyda man storio addas, gallwn gynnig ystod o feintiau biniau ar gyfer anghenion eich busnes. Gall pob bin ddod gyda chaead y gellir ei gloi. Rhaid rhoi unrhyw eitemau sy’n cael eu rhoi yn y biniau yn rhydd – ni fydd bagiau untro yn cael eu casglu. Mae gennym finiau ar gael ar gyfer papur/cardfwrdd, cynwysyddion a gwydr er mwyn i chi allu sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau ailgylchu yn gweithle newydd.

Recycling 240L Bin

Bin 240L
Addas ar gyfer 3-4 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

Recycling 360L Bin

Bin 360L
Addas ar gyfer 4-5 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 620mm (Ll) x 850mm (D)

Recycling 660L Bin

Bin 660L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 8-10 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1310mm (U) x 1260mm (Ll) x 730mm (D)

Recycling 1100L Bin

Bin 1100L
Cynhwysydd haearn, addas ar gyfer 15-18 o fagiau gwastraff.
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)

Gallwn ymateb i’ch anghenion drwy wagio’r biniau ar adegau sy’n gyfleus i chi. Byddwn yn codi tâl am bob tro y caiff y bin ei godi (neu ei wagio), ac rydym yn cynnig gwasanaeth hyblyg a gallwch wneud cais am gasgliadau ychwanegol yn rhwydd.

Gallwch logi neu brynu’r cynwysyddion hyn yn rhan o’r gwasanaeth.

Cardfwrdd

Gallwn gasglu cardfwrdd o ymyl y ffordd, os prynwch ein labeli cardfwrdd oren

Rhowch un label ar un tomen o gardfwrdd (hyd at faint bag gwastraff) ac fe’u casglwn ar eich diwrnod casglu penodol. Yn yr un modd â’r bagiau, dim ond am nifer y labeli a ddefnyddiwch a dalwch.

Fel arall, os ydych yn prynu llawer o gardfwrdd yn gyson ac mae gennych gyfleusterau storio digonol, gallwn roi bin 1100L i chi.

Recycling 1100L Bin

Bin 1100L
Cynhwysydd dur â phedair olwyn.
Mesuriadau: 1370mm (U) x 1260mm (Ll) x 990mm (D)

Gwydr

Ar gyfer llawer o wydr, gallwn roi bin 240L i chi.  Sylwch oherwydd cyfyngiadau pwysau dim ond at ei hanner y gallwch lenwi’r bin hwn.

Recycling 240L Bin

Bin 240L
Cynhwysydd â dwy olwyn.
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)

Dysgwch beth allwch chi ei ailgylchu gyda’n posteri defnyddiol

Angen cynhwysydd mwy?

Gallwn hefyd gynnig sgipiau i waredu gwastraff cyffredinol, ar gyfer gwaith clirio un tro neu ar gyfer casgliadau rheolaidd.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd