Call 029 2087 xxxx
DISCOVER THE WILD Learn how to balance your city job with nature BEACH LIFE Summer, sun and endless fun at the beach NIGHT RIDE Take off with top speed. Get Slider Revolution DISCOVER THE WILD Learn how to balance your city job with nature

Lleihau, Ail-ddefnyddio, Ailgylchu

Bydd lleihau faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu a chynyddu eich gwastraff ailgylchu yn arbed arian i’ch busnes ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Dyma rai syniadau i leihau faint o ailgylchu a gwastraff y mae eich busnes yn eu cynhyrchu.

Yn y swyddfa

  • Trefnwch gasgliad ar gyfer ailgylchu cymysg – y ffordd fwyaf hawdd o ailgylchu. Mae’r holl ddeunydd ailgylchu’n mynd i’r un bag!
  • Lleihewch nifer y negeseuon sothach yr ydych yn eu derbyn drwy gofrestru’ch busnes ar gyfer y Gwasanaeth Blaenori Post
  • Sicrhewch fod mannau ailgylchu gweladwy â labeli amlwg i gwsmeriaid ac aelodau staff. Mae croeso i chi ddefnyddio ein posteri ailgylchu
  • Peidiwch â defnyddio gormod o ddeunydd pacio gydag eitemau tec-awê neu unrhyw beth yr ydych yn ei anfon drwy’r post;
  • Ailddefnyddiwch ddeunyddiau megis bocsys cardfwrdd, papur lapio swigod ac amlenni;
  • Argraffwch yn ôl yr angen yn unig ac argraffwch ar ddwy ochr y dudalen i arbed papur
  • Rhowch orsafoedd ailgylchu papur ger peiriannau copïo ac argraffwyr
  • Trwsiwch neu ailddefnyddiwch ddodrefn, offer TG a ffonau symudol os yw’n bosibl

Yn y gegin/ffreutur

  • Trefnwch gasgliad gwastraff bwyd
  • Dylech osgoi rhoi cwpanau a chyllyll a ffyrc tafladwy i aelodau staff a chwsmeriaid
  • Ailgylchu olew coginio

Green Dragon EMS

Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymo wrth Safon Rheoli Amgylcheddol Green Dragon, sy’n cydnabod ein hymroddiad i gynaliadwyedd amgylcheddol. Gallwch chithau gofrestru a bydd eich busnes yn elwa ar system rheoli amgylcheddol sy’n berthnasol i chi.

I ddarganfod mwy ewch ar wefan Green Dragon

Dolenni defnyddiol

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd