Mae’n rhaid i chi lofnodi eich Nodyn Trosglwyddo Gwastraff bob blwyddyn. Mae eich nodyn newydd yn cael ei gynhyrchu 12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich contract, oni bai eich bod wedi diwygio eich contract.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar y porthol cwsmeriaid i lofnodi eich nodyn ac i dderbyn e-byst atgoffa. Gallwch weld eich nodiadau cyfredol a blaenorol yn y porthol.
Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd yn barod i’w lofnodi. Mewngofnodwch i’r porthol cwsmeriaid i lofnodi.
Os nad ydych yn ei lofnodi, byddwch yn derbyn e-bost atgoffa. Os nad ydych yn ei lofnodi o fewn 14 diwrnod wedi i chi gael yr e-bost atgoffa, byddwn yn rhewi’ch cyfrif ac ni fyddwn yn casglu eich gwastraff.
Mae’n rhaid i chi gadw eich Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff am hyd at 2 flynedd.
Dysgwch fwy am Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff.