Call 029 2087 xxxx

Gwneud taliadau

Byddwn yn dweud wrthych am gost eich casgliadau pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd angen i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol i wneud taliadau. Os oes angen i chi ddefnyddio dull talu amgen, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod hyn gyda chi.

Byddwch yn cael eich anfonebu’n fisol ar ffurf ôl-daliad. Byddwn yn anfon eich bil yn ystod wythnos gyntaf y mis canlynol. Er enghraifft, byddwn yn anfon eich anfoneb ar gyfer mis Ionawr yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror.

Y 15fed o’r mis fydd dyddiad y Debyd Uniongyrchol fel arfer.

Byddwn yn anfon eich anfoneb drwy’r post. Gallwn anfon eich anfoneb at dîm cyllid os yw’n well gennych. I ddewis yr opsiwn hwn, ychwanegwch gyswllt cyllid ar y porthol.

Bydd eich anfoneb yn rhoi manylion llawn ar sut i dalu a thelerau’r taliad.

Mae’r costau fel arfer yn sefydlog tan 31 Mawrth.

Rydym yn adolygu’r costau bob blwyddyn. Byddai unrhyw brisiau newydd yn berthnasol o 1 Ebrill. Os oes angen i ni wneud newidiadau i’n prisiau, byddwn yn rhoi gwybod i chi o leiaf 1 mis ymlaen llaw.

Taliadau a fethwyd

Os nad ydych yn talu 2 anfoneb yn olynol, byddwn yn:

  • rhewi’ch cyfrif,
  • peidio â chasglu eich gwastraff, a
  • cysylltu â chi ynglŷn â hyn.

Unwaith y byddwch yn talu, bydd eich gwasanaethau yn dechrau eto ar unwaith.

Os na fyddwch yn gwneud y taliad o fewn 2 fis i’ch cyfrif gael ei rewi, bydd eich contract yn dod i ben. Byddwn yn mynd ar drywydd y taliadau sy’n weddill a gellid cymryd camau gorfodi.

Ymholiadau ac anghydfodau ynghylch anfonebau

Os oes gennych ymholiad am eich anfoneb, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Anghydfodau

Os ydych am herio’ch anfoneb, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod unrhyw bryderon gyda chi.

Os ydych yn dal i fod eisiau herio’r anfoneb ar ôl trafodaeth, bydd angen i chi ofyn am ymchwiliad. Llenwch y ffurflen anghydfod ynghylch anfoneb os gwelwch yn dda. Mae’n rhaid i chi lenwi pob adran a rhoi cymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl.

Byddwn yn adolygu eich cais am ymchwiliad ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydym yn cytuno bod credyd yn ddyledus, dylech dderbyn eich nodyn credyd o fewn 14 diwrnod i’r gymeradwyaeth.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd