Gyda mwy a mwy o gwsmeriaid a lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid, Gwasanaeth Gwastraff Masnachol Cyngor Caerdydd yw’r lle i fynd ar gyfer anghenion rheoli a chasglu gwastraff eich busnes yng Nghaerdydd.
Fel awdurdod lleol, nid gwneud elw yw ein ffocws, ond cynnig gwasanaeth gwych am bris da i gefnogi busnesau Caerdydd. Wrth i’n nifer ein cwsmeriaid gynyddu, rydym yn pasio ein llwyddiannau ymlaen i’n cwsmeriaid, a dyna pam y bu gostyngiad yn ein prisiau ym mis Ebrill 2017. Ymunwch â ni heddiw a helpwch ni i dyfu ymhellach er mwyn parhau i leihau costau casgliadau gwastraff i Gaerdydd gyfan!
Yng Nghyngor Caerdydd, rydym yn osgoi tirlenwi ac yn hytrach yn troi eich gwastraff yn adnodd. Caiff gwastraff bwyd ei brosesu i fod yn gompost a gwrtaith, a chaiff ailgylchu ei drefnu yn ein Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau penigamp. Â unrhyw ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu i’r Cyfleuster Adfer Ynni yn Sblot, sy’n llosgi gwastraff er mwyn cynhyrchu ynni i gartrefi Caerdydd. Cewch ragor o fanylion yma
Rydym hefyd yn gweithredu Canolfan Ailgylchu Gwastraff Masnachol at y diben yn Bessemer Close (CF11 8XH) lle gall busnesau fynd i waredu eu gwastraff mewn modd cyfrifol am bris da.
Mae ein gwasanaethau ar gael i bob busnes masnachol yng Nghaerdydd. Gyda llawer o gwsmeriaid yng Nghaerdydd, a chasgliadau’n cael eu cynnal 7 niwrnod yr wythnos, gallwn roi sicrwydd bod gennym brofiad ac arbenigedd i reoli eich gwastraff yn effeithiol, a bydd aelod cyfeillgar o’r tîm yn barod i’ch helpu bob tro.
Mae ein tîm bychan, lleol ar gael bob tro i helpu ag unrhyw ymholiadau.
“Rydym yn dewis Gwasanaethau Gwastraff Caerdydd gan eu bod nhw’n fusnes yn seiliedig yng Nghaerdydd sy’n cefnogi cymunedau lleol. Mae gweithio gyda nhw wedi ein helpu i ddatblygu ein prosesau rheoli gwastraff amgylcheddol, gan sicrhau ein bod ni’n rheoli’r broses yn effeithlon ac effeithiol. Mae eu gwasanaeth cwsmeriaid wedi bod yn ardderchog, yn ein galluogi i ddatblygu’r maes busnes hwn a’n helpu i gyrraedd ein targed o ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y diwydiant celfyddydol.”
Canolfan Mileniwm Cymru