Rydym wedi’n cyffroi’n lân i gyhoeddi bod gan Wasanaethau Masnachol Caerdydd eu cerbyd casglu gwastraff trydan cyntaf!
Caiff y cerbyd casglu llai hwn ei ddefnyddio o gwmpas canol y ddinas mewn treial casglu gwastraff newydd gyda’r nod o wella ansawdd aer a lleihau effeithiau gwylanod.
Yn gyntaf dim ond busnesau o gwmpas Lôn y Felin gaiff eu cynnwys yn y treial hwn, gyda gwybodaeth i gael ei hanfon i’r busnesau perthnasol yn fuan. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn byrhau’r amser y bydd eich gwastraff ar y palmant, sy’n golygu y bydd llai o gyfle gan wylanod i wneud llanast gyda’ch gwastraff.
Os yw’r treial yn llwyddiannus, gallai’r cerbyd gael ei ddefnyddio ym mhob rhan o ganol y ddinas, a fydd yn arwain at wasanaeth casglu gwastraff mwy effeithlon gan helpu i wneud Caerdydd yn lle glanach, hapusach a mwy taclus.
Comments are closed.