Yn dilyn adolygiad o bolisi ailgylchu’r Cyngor, ni fyddwn mwyach yn cynnig ffrydiau gwastraff cymysg na sgipiau gwastraff cyffredinol. Gofynnwn fod cwsmeriaid yn defnyddio’r gwasanaeth sgip ar gyfer ffrydiau gwastraff unigol yn unig, megis coed, pridd, rwbel, gwastraff gardd, metel sgrap neu blastrfwrdd.
Gallwn gynnig gwasanaeth llogi sgip am bris rhesymol i breswylwyr lleol a busnesau yng Nghaerdydd. Mae gennym ystod o feintiau sgip ar gael, o sgipiau adeiladwyr bychain i sgipiau rowlio arnynt, rowlio oddi arnynt, ar gyfer ystod o anghenion.
Gellir llogi’r sgipiau hyn fel gwasanaeth un tro neu’n rhan o gontract gyda chasgliadau rheolaidd.
Sgipiau Adeiladwyr
6 llath giwbig
Mesuriadau 3.1m (H) x 1.7m (Ll) x 1.1m (U)
65-75 bag gwastraff
£125 + TAW
8 llath giwbig
Mesuriadau 3.4m (H) x 1.6m (Ll) x 1.6m (U)
80-90 bag gwastraff
£150 + TAW
🎉 Drwy gydol mis Hydref, gallwch logi sgip rwbel 8-llath am ddim ond £100 + TAW! Mae hynny’n £50 oddi ar ein pris arferol! 💸
Diddordeb? Anfonwch e-bost atom yn sgipiau@caerdydd.gov.uk i fanteisio ar y fargen wych hon. Ond brysiwch—dim ond ym mis Hydref mae’r cynnig hwn ar gael! ⏳
👉Sylwer: Nid yw ffioedd trwydded wedi’u cynnwys os yw’r sgip yn cael ei rhoi ar briffordd gyhoeddus. Telerau ac Amodau yn berthnasol.
Mae’r rhain yn addas ar gyfer projectau bach megis clirio’r cartref neu brojectau gwaith y cartref. Gallent ddod gyda neu heb gaead.
Efallai y bydd modd i ni gynnig meintiau sgip gwahanol ar gais. Cysylltwch â ni os ydych am drafod eich opsiynau.
Roll-on Roll-off Skips
These skips can be provided with open tops, fully enclosed or with compaction facilities.
These skips are not suitable for storage on the public highway, and must be stored on private land.
20 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.2m (H)
220 – 240 refuse bags
30 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 1.8m (H)
330 – 350 refuse bags
40 cubic yard
Dimensions 5.8m (L) x 2.2m (W) x 2.4m (H)
440 – 460 refuse bags
Trwyddedau Sgipiau
Os ydych yn cynnig cael sgip ar y briffordd, bydd angen trwydded arnoch ond gallwn helpu i hwyluso hyn yn rhan o’r gwasanaeth. Gallwn hefyd gynnig conau a goleuadau i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r drwydded.
Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch, ni ddylid llenwi sgipiau'n uwch na'r lefel a nodir.
Mae hefyd rhai eitemau na ddylid eu rhoi mewn sgipiau:
- Asbestos
- Gwastraff clinigol a meddygol
- Batris ac asidau
- Deunyddiau perygl neu wenwynig
- Llysiau’r Dial
- Caniau paent, glud a thiwbiau mastig
- Caniau chwistrellu neu boteli nwy
- Bonau coed
- Hylif yn cynnwys olew