Byddwn yn dweud wrthych am gost eich casgliadau pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd angen i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol i wneud taliadau. Os oes angen i chi ddefnyddio dull talu amgen, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod hyn gyda chi.
Byddwch yn cael eich anfonebu’n fisol ar ffurf ôl-daliad. Byddwn yn anfon eich bil yn ystod wythnos gyntaf y mis canlynol. Er enghraifft, byddwn yn anfon eich anfoneb ar gyfer mis Ionawr yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror.
Y 15fed o’r mis fydd dyddiad y Debyd Uniongyrchol fel arfer.
Byddwn yn anfon eich anfoneb drwy’r post. Gallwn anfon eich anfoneb at dîm cyllid os yw’n well gennych. I ddewis yr opsiwn hwn, ychwanegwch gyswllt cyllid ar y porthol.
Bydd eich anfoneb yn rhoi manylion llawn ar sut i dalu a thelerau’r taliad.
Mae’r costau fel arfer yn sefydlog tan 31 Mawrth.
Rydym yn adolygu’r costau bob blwyddyn. Byddai unrhyw brisiau newydd yn berthnasol o 1 Ebrill. Os oes angen i ni wneud newidiadau i’n prisiau, byddwn yn rhoi gwybod i chi o leiaf 1 mis ymlaen llaw.