Fel rhan o’ch gwasanaeth casglu, mae’n rhaid i chi lofnodi:
- Nodyn Trosglwyddo Gwastraff, a
- telerau ac amodau
Mae hyn yn ffurfio eich contract ac yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, megis:
- diwrnod eich casgliad,
- mathau o wastraff y byddwn yn eu casglu,
- pa mor aml y byddwn yn casglu, a
- ble mae eich gwastraff yn mynd ar ôl iddo gael ei gasglu.
Os na allwn gasglu oherwydd bai’r cwsmer, codir tâl arnoch o hyd. Er enghraifft, os yw’r eitemau anghywir yn eich bin neu os nad yw’r biniau allan i’w casglu.
Mae’n gontract blynyddol treigl. Mae’n rhaid i chi roi 90 diwrnod o rybudd i ni os ydych chi am ddod â’r contract i ben.