Call 029 2087 xxxx

Cael gafael ar gynwysyddion a bagiau

Gallwch archebu:

  • bagiau oren,
  • bagiau glas neu goch (ar gyfer canol y ddinas a strydoedd mawr lleol yn unig),
  • bagiau gwastraff bwyd 35 litr, a
  • bagiau gwastraff bwyd 7 litr.

Codir tâl arnoch fesul rholyn. Gallwch archebu hyd at 10 rholyn o bob math o fag. Ni allwch roi archeb newydd os nad yw’ch archeb bresennol wedi’i danfon eto.

I archebu biniau, bydd angen i chi:

Danfoniadau

Ein nod yw danfon eich eitemau o fewn 10 diwrnod gwaith. Os oes eu hangen arnoch ar frys, cysylltwch â ni a byddwn yn ymdrechu i fodloni eich anghenion.

Rydym yn danfon rhwng 6am a 3pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae angen llofnod ar gyfer pob danfoniad bagiau. Os nad yw eich busnes ar agor yn ystod oriau danfon, cysylltwch â ni.

Byddwch yn derbyn e-bost pan fyddwn wedi danfon eich bagiau. Ar ôl i’ch bagiau gael eu danfon, codir tâl arnoch ar eich anfoneb nesaf.

Os na allwn ddanfon eich bagiau, byddwn yn ceisio eu danfon eto ar y dyddiad nesaf sydd ar gael.

Os na allwn ddanfon eich bagiau yr ail dro, byddwn yn cau’r cais, ac ni chodir tâl arnoch. Bydd angen i chi ail-archebu’r bagiau.

Byddwn yn gadael eich biniau a’ch cadis ar y palmant y tu allan i’ch busnes, oni bai bod lleoliad arall wedi’i gytuno.

Bydd label ar y bin, fel eich bod yn gwybod ei fod yn perthyn i chi.

Mae’n rhaid i chi dynnu’r cynwysyddion oddi ar y palmant cyn gynted ag y gallwch. Dim ond ar gyfer casgliadau y gall eich cynwysyddion fod ar y palmant. Os nad oes lle gennych i’w storio, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.

Byddwn yn rhoi biniau newydd i chi am ddim os yw eich biniau’n cael eu difrodi neu’n mynd ar goll yn ystod y broses gasglu. Bydd ein tîm casglu yn rhoi gwybod am fin sydd wedi’i ddifrodi neu ei golli, a byddwn yn trefnu bin newydd. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Os nad yw’r difrod yn ganlyniad i draul neu wedi’i achosi yn ystod casgliad, efallai y byddwn yn codi tâl arnoch am fin newydd. Er enghraifft, os ydynt yn cael eu difrodi trwy gamddefnydd.

Codir tâl am finiau sy’n mynd ar goll neu’n cael eu dwyn.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd