Call 029 2087 xxxx

Casgliadau

Rydym yn casglu gwastraff rhwng 6am a 3:45pm, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae’n rhaid i’ch cynwysyddion fod yn eich man casglu erbyn 6am ar eich diwrnod casglu. Dylech geisio dod â’r cynwysyddion yn ôl i mewn cyn gynted ag y byddant yn wag.

Os yw eich busnes yng nghanol y ddinas, rhaid i chi dynnu’r cynwysyddion oddi ar y palmant erbyn 10am. Gallech wynebu camau gorfodi os ydynt yn aros ar y palmant.

Byddwn yn siarad â chi am unrhyw gyfyngiadau penodol a allai fod ar waith yng nghanol y ddinas cyn i ni ddechrau casgliadau.

Gallwch weld pa ddiwrnod y mae angen i chi roi eich biniau allan a’ch amserlen gasglu ar eich Nodyn Trosglwyddo Gwastraff. Mewngofnodwch i’r porthol cwsmeriaid ac ewch i’r adran dogfennau i weld eich Nodyn Trosglwyddo Gwastraff.

Dilynwch y gwasanaeth Gwastraff Masnach ar Facebook i gael diweddariadau rheolaidd ar gasgliadau, oedi, a negeseuon atgoffa am ddigwyddiadau i ddod a allai effeithio ar eich casgliadau.

Casgliadau biniau

Os ydych yn defnyddio biniau, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y caeadau ar gau. Os oes bagiau ychwanegol wrth ymyl y bin, ni fyddwn yn casglu’r gwastraff.

Os ydych chi am i ni gasglu bagiau ychwanegol, cysylltwch â ni. Codir tâl am gasgliadau ychwanegol.

Mae uchafswm terfyn pwysau ar y biniau. Mae hyn er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein timau casglu, ac oherwydd capasiti codi’r cerbyd.

Casgliadau a fethwyd

Os na allwn gasglu eich gwastraff, byddwn yn anfon e-bost atoch yn nodi:

  • y rheswm pam na allwn gasglu eich gwastraff, a
  • unrhyw gamau yr ydym yn argymell i chi eu cymryd.

I dderbyn yr e-byst hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y porthol cwsmeriaid.

Os nad ydym wedi casglu eich gwastraff ac nad ydym wedi anfon e-bost atoch i egluro pam, cysylltwch â ni i roi gwybod am hyn.

© Cardiff Trade Waste - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd