Pan fydd deunyddiau asbestos yn mynd yn hen neu’n cael eu difrodi (h.y. eu drilio, llifio, sgrwbio neu sandio) gallant ryddhau ffibrau gwenwynig i’r aer.
Mae asbestos yn gyffredin mewn llawer o adeiladu a gwblhawyd cyn 1999. Ers hynny, mae rheoliadau caeth wedi bod ar waith ar gyfer cynnal a chael gwared ar asbestos yn y DU, er mwyn lleihau’r risgiau cysylltiedig i iechyd.
Sut ydw i’n gwybod os ydw i wedi dod o hyd i asbestos?
Mae llawer o amrywiadau o ran asbestos, yn dibynnu ar y defnydd. Am y cyngor gorau ar adnabod asbestos, cynghorwn i chi fynd i wefan y Ganolfan Gwybodaeth Asbestos.
Sut ydw i’n gwaredu asbestos?
Ni all Cyngor Caerdydd waredu gwastraff asbestos eich busnes.
Ni ddylech roi unrhyw wastraff asbestos yn eich biniau neu fagiau arferol i’w casglu gan Gyngor Caerdydd. Hefyd, ni chaniateir i chi waredu unrhyw swm o wastraff asbestos yn ein sgipiau.
Mae’n rhaid casglu a gwaredu asbestos gan gwmnïau arbenigol sy’n meddu ar y trwyddedau priodol. Ni allwn argymell arbenigwr asbestos i’w symud, ond rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud yn siŵr eu bod wedi’u trwyddedu i gael gwared ar asbestos ac yn gludydd gwastraff cofrestredig.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael gwared ar asbestos yn y bin/sgip?
Os byddwn yn nodi cynhyrchion asbestos posibl yn eich gwastraff, a bod prawf yn cadarnhau hyn, chi fydd yn atebol am gost y prawf a hefyd y gost o gael gwared ar y llwyth llawn y ceir yr asbestos ynddo.
Angen rhagor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth am asbestos, rydym yn argymell edrych ar wefan y Ganolfan Gwybodaeth Asbestos.
Comments are closed.