Hoffem sicrhau ein cwsmeriaid bod Cyngor Caerdydd, a’r Tîm Gwasanaethau Gwastraff Masnachol, wedi datblygu Cynlluniau Parhad Busnes sy’n cael eu hadolygu’n aml, er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu ag y bo modd oherwydd pandemig Covid-19.
Byddwn yn dilyn canllawiau a bennir gan arweinwyr y Cyngor yn seiliedig ar argymhellion Llywodraeth Prydain, ac rydym eisoes wedi cymryd camau i leihau’r risgiau i’n staff.
Rhagwelwn y bydd nifer y staff yn lleihau’n sylweddol ar ryw adeg yn ystod y pandemig, ac yn ystod yr achos hwn, efallai bydd angen i ni adolygu pa wasanaethau rydym yn eu gweithredu. Ymddiheurwn ymlaen llaw os bydd hyn yn achosi anghyfleustra i’ch busnes, ond byddwn yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar wasanaethau ac ardaloedd y ddinas sydd dan y pwysau mwyaf. Lle y bo’n bosibl byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid yn ystod y cyfnod ansicrwydd hwn.
Gan fod hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, byddwn yn ymdrechu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am statws ein gweithrediadau mor aml â phosibl a byddwn yn anfon diweddariadau e-bost o bryd i’w gilydd. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, rydym yn annog cwsmeriaid i gysylltu â ni drwy e-bost gwasanaethaumasnachol@caerdydd.gov.uk i gadarnhau bod gennym y manylion cyswllt cywir.
Rydym yn bwriadu cael staff y swyddfa wrth law yn ystod amseroedd busnes arferol, i helpu gydag unrhyw bryderon neu geisiadau, ond ychydig iawn o staff fydd ar gael dros y ffôn. Felly os oes gennych unrhyw bryderon rydym yn eich annog i gysylltu â ni drwy e-bost ar gwasanaethaumasnachol@caerdydd.gov.uk, neu ddefnyddio’r ffurflen ar y wefan i gysylltu â ni.
Hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ac rydym yn dymuno’r gorau i’n holl gwsmeriaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Comments are closed.