Hoffem roi gwybod i chi am newidiadau a wneir cyn bo hir i’r ffordd y caiff eich cytundeb Gwastraff Masnach presennol ei reoli.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gaffael system weithredu a rheoli cwsmeriaid newydd gyda’r nod o wella ein gwasanaeth Gwastraff Masnach. Bydd yn cynnwys nodweddion newydd a fydd yn eich helpu chi, fel cwsmer, i gael gafael yn well ar wasanaethau ac i gael mwy o reolaeth dros eich cyfrif cwsmer. Caiff cam cyntaf y prosiect hwn ei weithredu ym mis Rhagfyr 2021 gyda chamau eraill i ddilyn drwy gydol 2022.
Beth fydd yn newid i fi?
O fis Ionawr 2021 gallwch ddisgwyl y newidiadau canlynol
- Hysbysiadau e-bost i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau fel materion casglu a dosbarthu stoc.
- Bydd anfonebau’n parhau i gael eu cyhoeddi’n fisol, fodd bynnag, bydd yr hysbysiad codi tâl yn newid o’r ‘mis ymlaen llaw’ i’r ‘mis a fu’. Gallech hefyd sylwi ar y ffaith bod eich taliadau arferol wedi’u rhannu dros nifer o anfonebau yn ystod y cyfnodau bilio cyntaf wrth i ni drosglwyddo rhwng llwyfannau. Fodd bynnag, ni fydd cyfanswm y symiau sy’n daladwy yn newid ac ni effeithir ar Ddebydau Uniongyrchol y gallech fod wedi’u sefydlu.
Yng Ngwanwyn/Haf 2022 gallwch ddisgwyl y newidiadau canlynol:
- Caiff porthol cwsmeriaid ei gyflwyno a fydd yn eich galluogi i weld eich cyfrif, i weld eich data casgliadau ac i ofyn am stoc/newidiadau.
- Caiff diweddariad ynghylch holl nodweddion y Porthol ei ryddhau yn y flwyddyn newydd.
Beth sydd angen i fi ei wneud?
Mae cyfeiriad e-bost cyfredol yn arbennig o bwysig gan y bydd y system newydd yn anfon hysbysiadau e-bost ar gyfer materion casglu. Bydd hefyd angen defnyddio cyfeiriad e-bost i fewngofnodi i’ch cyfrif cwsmer ar y Porthol. Diweddarwch eich manylion cyswllt drwy gwblhau ein harolwg ar-lein erbyn 6 Rhagfyr 2021.
Bydd angen cyfeirnod cwsmer unigryw arnoch i gwblhau’r arolwg, y dylech ei dderbyn drwy’r post.
Cyfyngiadau ar wasanaethau
- Yn ystod y cyfnod o bontio’r system (7 Rhagfyr i 31 Rhagfyr) bydd yn anos i’r tîm Gwastraff Masnach wneud newidiadau cyswllt felly ystyriwch pa wasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch ar gyfer cyfnod y Nadolig cyn gynted â phosibl a chysylltu â ni ar gwastraffmasnach@caerdydd.gov.uk
- Bydd angen archebu bagiau gwastraff/labeli cardbord ar gyfer y cyfnod yn gynnar eleni felly archebwch nhw cyn gynted â phosibl fel y gallwn warantu slot dosbarthu stoc i chi. Sylwer na fyddwn yn dosbarthu rhwng 21 a 31 Rhagfyr.
Ni fydd gweithredu’r system newydd hon yn effeithio ar eich diwrnodau casglu neu ar amserlenni gwasanaeth y cytunwyd arnynt. Caiff amserlenni presennol eu mewngludo i’r system weithredu newydd.
Yn olaf, diolch i chi am eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod heriol hwn. Nod y Gwasanaeth Gwastraff Masnach yw rhoi hyblygrwydd o ran gwasanaethau a chontractau i chi, fusnesau’r Ddinas, gyda’r gobaith o’ch helpu i adfer ac adfywio. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu drwy ffonio 02920 717501 neu drwy e-bostio gwastraffmasnach@caerdydd.gov.uk
Comments are closed.