Hoffem glywed gennych!
Yn Nhîm Gwastraff Masnachol Cyngor Caerdydd, rydym yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth o safon uchel er mwyn cefnogi busnesau Caerdydd. Rydym yn adolygu ein perfformiad yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Yng ngoleuni hyn, hoffem wahodd pob cwsmer i gymryd rhan mewn arolwg byr 3 munud o hyd. Hwn fydd eich cyfle chi i rannu eich profiadau am y gwasanaeth, a thynnu sylw at unrhyw feysydd lle gellid gwneud gwelliannau.
Mae’r arolwg yn dod i ben ddydd Iau 15 Ebrill.
Diolch am ein helpu i ddatblygu’r gwasanaeth. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb.
Comments are closed.