Newyddion da!
Mae pob un o’n criwiau a’n cerbydau casglu gwastraff yn ôl i sicrhau bod busnesau Caerdydd yn cael eu cefnogi ar ôl y cyfnod cloi.
Ers mis Ebrill, rydym wedi gorfod gweithredu gydag ychydig iawn o staff a cherbydau casglu a cherbydau er mwyn sicrhau bod y staff mwyaf agored i niwed yn hunan-ynysu a bod gwasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn cael eu cefnogi yn ystod cyfnod o ansicrwydd mawr.
Yn ffodus, rydym yn gweithredu gyda chriw llawn erbyn hyn ac rydym yn barod i ailddechrau’r gwasanaeth o safon uchel a gawsoch cyn y cyfnod cloi.
Efallai eich bod wedi gweld newid o ran y diwrnodau casglu dros y cyfnod cloi. Gan ein bod ni’n ôl gyda chapasiti llawn, bydd casgliadau’n dychwelyd i’r amserlen cyn y cyfnod cloi (oni bai eich bod wedi newid eich contract yn ffurfiol ers mis Ebrill). Nid ydym yn gallu cynnig y casgliadau gyda’r nos o hyd ond rydym yn adolygu hyn yn rheolaidd a byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid.
Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch y gallai’r newidiadau hyn fod wedi’u hachosi, ac os hoffech siarad ag aelod o’r tîm i egluro unrhyw beth, anfonwch e-bost atom yn GwasanaethauMasnachol@caerdydd.gov.uk
Comments are closed.