Ail-gyflwyno casgliadau gwastraff eich busnes
Os ydych yn ystyried ail-agor eich sefydliad wrth i ni ddechrau cynllunio ffordd allan o’r cloi mawr, yna croeso’n ôl!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod eich bod yn ail-agor er mwyn osgoi unrhyw gasgliadau gwastraff a gollir.
Oeddech chi’n cael casgliad yn y prynhawn neu gyda’r nos cyn y cloi mawr?
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cynnig y gwasanaeth casglu gwastraff prynhawn/gyda’r nos, oherwydd prinder staff ac adnoddau. Os oeddech yn defnyddio’r gwasanaeth hwn yn flaenorol, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu i drafod eich opsiynau a’ch amseroedd casglu eraill. Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i bob cais.
Casgliadau ffrwd gwastraff sengl
Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at newidiadau dirfawr o ran staffio, marchnadoedd a’r fflyd sydd ar gael, ac mae hyn wedi effeithio ar y ffordd y gallwn ddarparu ein gwasanaethau. Ar hyn o bryd rydym yn casglu pob ffrwd gwastraff ar un cerbyd, a allai effeithio ar eich diwrnodau casglu. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau.
A oes angen gwasanaeth ychydig yn wahanol arnoch?
Os ydych yn gweithredu gydag oriau agor llai neu ddiwygiedig, gallwn eich helpu i aildrefnu eich amserlen casglu a gwasanaethau er mwyn diwallu eich anghenion yn well. Gellir gwneud gwelliannau i wasanaethau heb unrhyw ffioedd gweinyddu, felly os oes angen llai neu fwy o gasgliadau arnoch pan fyddwch yn ailagor, rhowch wybod i ni.
Gallwn hefyd drefnu casgliadau untro ychwanegol, os oes angen help arnoch i glirio gwastraff ychwanegol cyn i chi ail-agor.
A pheidiwch ag anghofio, ar gyfer unrhyw ofynion gwastraff, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Rydyn ni bob amser yn barod i helpu.
Y ffordd orau o gysylltu â ni yw drwy’r wefan neu ar GwasanaethauMasnachol@caerdydd.gov.uk.
Comments are closed.