Dros y mis diwethaf buom yn gweithio’n gale di gefnogi ein hymddiriedolaeth GIG leol, drwy sicrhau bod ei gofynion casglu gwastraff yn cael eu bodloni, yn ystod adeg o darfu a newid.
Rydym wedi creu rownd gasglu bwrpasol i sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion y GIG o hyd hyd yn oed gyda llai o staff a’u cefnogi yn ystod yr adeg heriol hon.
Mae Paolo a Christian yn rhan o griw’r tîm arbenigol hwn ac maent yn hynod falch o gefnogi’r GIG fel hyn. Mae’r ddau wedi gweithio’n galed i fodloni’r galw cynyddol wrth fod yn hyblyg gyda newidiadau yn eu harferion gwaith. Mae Paolo wedi bod yn casglu gwastraff y GIG ers i’r contract ddechrau yn 2015 ac mae bob tro yn barod i fynd gam ymhellach dros ei gwsmeriaid. Mae Chris yn aelod gwerthfawr a dibynadwy o’r Tîm Gwastraff Masnachol, a gwerthfawrogir yn fawr ei ymroddiad i’n cwsmeriaid.
Yn ogystal, mae ein Timau Gwastraff Masnachol yn:
- Cynorthwyo casgliadau gwastraff y GIG nad yw’n glinigol o Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, yn gweithio gyda’n cysylltiadau yn y stadiwm a gyda chontractwyr a rhanddeiliaid eraill y GIG i gefnogi’r cyfleuster newydd dros dro hwn, sy’n cynnig 2000 o welyau yn ychwanegol.
- Cefnogi’r cyfleuster profion gyrru heibio yn Gleision Caerdydd, a marwdy dros dro mewn man arall yn y ddinas.
- Gwaredu maint sylweddol o wastraff gan ddefnyddio sgipiau rholio i mewn ac allan, a gwasanaethir y rhain gan eu gyrwyr gweithgar, Mark a James. Mae’r ddau wedi ymuno yn ddiweddar i’n helpu ni i gynnig y gwasanaeth hwn, ac maent wedi gweithio’n dda i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel.
Dywedodd Violet Lee, Rheolwr Contract Masnachol: “Mae ein timau’n gweithio’n galed i barhau i gynnal gwasanaethau ledled y ddinas. Rydym yn sicrhau bod pob aelod o staff gweithredol yn cael ei ddiogelu yn y cerbyd ac mewn lleoliadau cwsmeriaid gyda chyfarpar diogelu personol a gymeradwyir a mesurau ymbellhau cymdeithasol eraill.
“Mae ein staff swyddfa i gyd yn parhau i weithio o gartref i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau casglu gwastraff hyn. Yn ogystal â chefnogi’r GIG, rydym hefyd yn gweithio’n galed i gefnogi busnesau eraill yng Nghaerdydd ac adeiladau eraill y Cyngor, sydd angen casgliadau gwastraff o hyd.”
“Mae pob aelod o’r tîm yn chwarae rôl allweddol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid yn ystod y cyfnod cloi, wrth fodloni gofynion cynyddol gan y GIG. Rydym yn ddiolchgar i bob aelod o’r tîm.”
Hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid yn y cyfnod anodd hwn, ac os gallwn gynnig cymorth cofiwch gysylltu â ni.
Comments are closed.