O ddydd Llun 30 Mawrth, byddwn yn gwneud rhai newidiadau i wasanaethau.
Oherwydd prinder staff yn sgil Pandemig Covid-19 nid ydym bellach yn gallu gweithredu cerbydau ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o wastraff. Yn hytrach, mae’r Cyngor wedi gwneud y dewis i gasglu’r holl ffrydiau gwastraff gyda’i gilydd. Pan fydd eich diwrnod casglu gwastraff cyffredinol, cyflwynwch yr holl wastraff arall wrth ei ochr (yn y cynwysyddion cywir) a bydd yr un cerbyd yn cymryd yr holl wastraff ar yr un pryd.
Yn ogystal, nid ydym bellach yn gallu cynnig casgliadau gwastraff busnes yn y prynhawn. Os bydd eich gwastraff fel arfer yn cael ei gasglu ar ôl 2pm, gofynnwn i chi sicrhau bod eich gwastraff ar gael yn gynt yr un diwrnod. Bydd angen cyflwyno’r holl wastraff nawr o 6am ar eich diwrnod casglu.
Mae’r ddau newid hyn yn rhai dros dro, ac unwaith y bydd niferoedd y staff yn dychwelyd i lefel mwy arferol, byddwn yn dychwelyd i’r gwasanaeth arferol. Byddwn yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cwsmeriaid pan fydd unrhyw newidiadau’n codi.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu faterion yn ymwneud â’r newidiadau hyn i’r casgliadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar c.services@caerdydd.gov.uk
Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Comments are closed.