Os ydych wedi cael eich gorfodi i gau, gallwch ohirio’ch casgliadau gwastraff
O 23 Mawrth 2020, gofynnwyd i bob busnes nad yw’n hanfodol gau er mwyn arafu lledaeniad Covid-19.
Mewn ymateb i’r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi ein cwsmeriaid.
Os ydych yn rhedeg busnes na all fod ar agor mwyach oherwydd cyfyngiadau’r Llywodraeth, rydym yn cynnig gohirio eich casgliadau gwastraff nes y rhoddir gwybod fel arall, heb unrhyw gost ychwanegol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i leddfu’r pwysau ariannol ar ein cwsmeriaid a busnesau lleol.
Os hoffech ohirio eich casgliadau yn ystod yr adeg hon, cysylltwch â ni drwy c.services@caerdydd.gov.uk
Byddwn hefyd yn gofyn i chi gysylltu â ni eto, pan ddymunwch i’ch casgliadau ailddechrau.
Diweddariad gwasanaeth
Rydym yn parhau i gynnig casgliadau gwastraff ar gyfer ein cwsmeriaid, ledled Caerdydd, er ein bod yn gweithredu gyda llai o gerbydau a staff ar hyn y bryd.
Mae’r holl staff swyddfa nawr yn gweithio o gartref i’w diogelu, ac er y bydd ganddynt fynediad i’r brif linell ffôn, rydym yn argymell yn gryf i chi gysylltu â ni drwy’r wefan neu ein cyfeiriad e-bost, am yr ymateb cyflymaf.
Rydym yn dal i allu cynnig casgliadau ychwanegol a dosbarthu bagiau, felly os oes angen un o’r rhain arnoch cysylltwch â ni.
Unrhyw gyngor?
Os oes angen unrhyw gyngor arnoch ynghylch eich contract neu unrhyw faterion yn ymwneud â gwastraff, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dymunwn y gorau i’n holl gwsmeriaid yn ystod yr adeg anodd hon.
Comments are closed.