Mae gwastraff bwyd wedi dod yn daten dwym yn ddiweddar, gydag anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd ynghylch faint o wastraff bwyd a gaiff ei daflu gennym fel gwlad. Lle bo hynny’n bosib, dylai pawb wastraffu llai o ran bwyd, ond rydym yn deall nad oes modd osgoi pob gwastraff bwyd. Bydd angen taflu plisgyn wy, esgyrn a chrwyn banana bob amser.
Felly ar gyfer gwastraff bwyd na ellir ei osgoi, dylem sicrhau ei fod yn cael ei ailgylchu, fel nad yw’n wastraff 100%.
A wyddech chi fod modd cynnig casgliadau gwastraff bwyd am oddeutu £1 fesul casgliad?
Yng Nghyngor Caerdydd, mae’r holl wastraff bwyd a gesglir gennym, boed yn wastraff cartref neu fusnesau, yn mynd i Dreuliwr Anaerobig sy’n cael ei redeg gan Dŵr Cymru. Mae’r cyfleuster hwn yn defnyddio ystod o brosesau gwyddonol i newid ein gwastraff bwyd ni yn gynnyrch gwerthfawr.
Caiff dau brif nwydd eu creu yn y cyfleuster hwn. Bio-nwy yw’r cyntaf, a gaiff ei ddefnyddio i redeg y cyfleuster, gan ei wneud yn hunan-gynhaliol.
Yr ail yw gweddillion treuliad anaerobig, a gaiff ei ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol. Golyga hyn yn ei dro fod ein gwastraff bwyd yn helpu i dyfu mwy o fwyd, y gellid ei ailgylchu drachefn i dyfu hyd yn oed mwy o fwyd.
Os carech wybod mwy am y cyfleuster hwn gan Dŵr Cymru, sut mae’n gweithio, ac efallai gael golwg o amgylch y lle yna mae mwy o wybodaeth ar wefan Ynni Organig Dŵr Cymru.
Ac os oes diddordeb gennych yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, ewch draw i’n tudalen casgliadau gwastraff bwyd i gael rhagor o wybodaeth.
(Llun: Ynni Organig Dŵr Cymru )
Comments are closed.