Mae newidiadau ar ddod i’r ffordd y disgwylir i fusnesau waredu eu gwastraff yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig ei gwneud yn orfodol i gynhyrchwyr annomestig wahanu eu gwastraff. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes, sefydliad sector cyhoeddus ac elusennau wahanu eu gwastraff i’r llifoedd gwastraff canlynol:
- papur/cardfwrdd
- metel/plastig
- gwydr
- bwyd
- gwastraff bach o Gyfarpar Trydanol ac Electronig
- tecstilau.
- Byddai unrhyw wastraff na fyddai’n rhan o’r categoriau hyn yn cael eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
Bydd y rheoliadau hyn, os cânt eu cymeradwyo, yn golygu y bydd unrhyw fusnes nad yw’n gwahanu ei wastraff fel hyn yn torri’r gyfraith a gallai gael ei gosbi (gyda dirwy mwy na thebyg). Bydd hefyd yn anghyfreithlon i unrhyw gasglwr gwastraff (h.y. ni) i gymysgu’r gwastraff pan fo’n cael ei gasglu.
Bydd y rheoliadau hyn yn golygu na fyddem bellach yn gallu darparu’r casgliad Ailgylchu Cymysg Sych sydd ar gael ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn gallu casglu gwastraff cyffredinol sy’n cynnwys eitemau y gellir eu hailgylchu.
Cynigir gweithredu’r newidiadau hyn, os cânt eu cymeradwyo, o Hydref 2021.
Byddwn yn monitro’r cynigion hyn yn ofalus a byddwn yn gweithredu’r newidiadau gofynnol ar sail canlyniad yr ymgynghoriad. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gofynion cyfreithiol eu contractau gwastraff i gwsmeriaid, a byddwn yn eich hysbysu pan ac os bydd angen cyflwyno newidiadau i’ch contract.
Angen mwy o fanylion?
Mae ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd, ac rydym yn argymell i unrhyw sefydliad sy’n pryderu neu sydd â chwestiynau ynghylch y cynigion gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad. Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn 13 Rhagfyr 2019.
Mae modd darllen Dogfen yr Ymgynghoriad a dogfennau cysylltiedig ar wefan Llywodraeth Cymru yma. Mae manylion ynghylch sut i gyflwyno ymateb ar y ddolen hon.
Mae yna hefyd weminar am ddim ar 21 Tachwedd 2019, wedi’i chyflwyno gan Dr Andy Rees o Lywodraeth Cymru, a fydd yn nodi’r newidiadau arfaethedig, gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau mewn sesiwn Holi ac Ateb ryngweithiol. Gall unrhyw un gofrestru ar gyfer y weminar hon drwy ymweld â RecycleLink Wales.
Os oes gennych unrhyw ofidiau am effaith hyn ar eich busnes a’ch contract gwastraff, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Comments are closed.