Peidiwch â gwastraffu eich ailgylchu!
Dyma 17eg flwyddyn yr Wythnos Ailgylchu, ac fel Awdurdod Lleol rydym yn llwyr gefnogol o’r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth ynghylch ailgylchu.
Mae thema eleni yn canolbwyntio ar ailgylchu wedi ei halogi. Mae cyfraddau ailgylchu’r wlad wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae Cymru bellach yn ail yn y byd o ran ei chyfraddau ailgylchu cartref. Mae hyn yn newyddion da, ond yn anffodus mae ein lefelau halogiad ailgylchu wedi bod yn cynyddu hefyd.
Mae hyn yn newyddion drwg, oherwydd po uchaf yw’r lefelau halogi, lleia’n y byd y gallwn ei adennill o’ch bagiau ailgylchu. Felly gallai’r holl ymdrech yna o roi eitemau ailgylchadwy yn eich bin ailgylchu fynd yn wastraff!
Beth yw ailgylchu wedi ei halogi?
Mae ailgylchu wedi ei halogi yn cyfeirio at bresenoldeb unrhyw eitemau na ddylen nhw fod yno, wedi eu rhoi yn y biniau neu’r bagiau ailgylchu.
Pethau cyffredin sy’n halogi yw:
- Bagiau siopa plastig
- Cynwysyddion bwyd brwnt
- Cling film
- Papur tusw wedi ei ddefnyddio
- Bwyd neu olion bwyd (dylech ddefnyddio ein casgliadau gwastraff bwyd yn lle)
- Dillad
- Pren
- Eitemau trydanol
Mae modd ailgylchu rhai o’r pethau hyn, ond nid trwy gasglu’r bagiau gwyrdd a’r bagiau clir. Mae ein holl ailgylchu yn mynd i’r Cyfleuster Adennill Deunyddiau (CAD) sydd wedi ei greu ond i drin eitemau a deunyddiau ailgylchu penodol. Mae modd gweld rhestr o’r eitemau hyn yn adran Ailgylchu ein gwefan.
Ni ellir ailgylchu unrhyw gynwysyddion bwyd brwnt neu dywelion papur a ddefnyddiwyd am nad ydynt yn lân. Mae’n rhy anodd a drud i Ail-broseswyr lanhau’r eitemau hyn, felly nid ydynt yn cael eu hailgylchu.
Sut allwn ni leihau ar halogi?
Ac eithrio’r amlwg “peidiwch â rhoi’r eitemau anghywir yn y bin” mae’r awgrymiadau canlynol gennym:
- Golchwch eich cynwysyddion bwyd plastig a metel. Gallai’r olion bwyd ar y rhain ddifetha gweddill yr ailgylchu!
- Gosodwch ein posteri ailgylchu Ie/Na o amgylch y gweithle (gweler yma)
- Heriwch gydweithwyr sy’n gwrthod ailgylchu
- Cofrestrwch ar gyfer ein casgliadau ailgylchu un ffrwd!
Gwahanu eich ailgylchu lle mae’n tarddu yw’r ffordd orau o leihau perygl halogiad, ac sy’n cynhyrchu’r ailgylchu o’r ansawdd gorau. Gallwn ddarparu cynwysyddion gwahanol ar gyfer gwydr a chardfwrdd i’ch busnes a thrwy gasglu’r rhain ar wahân, bydd yn ein galluogi ni i osgoi mynd drwy ein CAD a sicrhau na fydd unrhyw un o’r deunyddiau hyn wedi eu halogi.
Gellir cael manylion pellach yn adran Ailgylchu ein gwefan.
Comments are closed.