Rydym yn clywed dro ar ôl tro straeon gan fusnesau a chwsmeriaid lleol sydd wedi cael eu bysedd wedi llosgi yn y gorffennol gan gontractau gwastraff. Mae rhai yn talu miloedd i gael eu rhyddhau o gontract sydd ymddangos i fod yn llawer llai rhesymol nag yr ystyriwyd ar y dechrau. Ano Anodd yw credu ond does gan y sector rheoli gwastraff ddim awdurdod rheoliadol, felly, os cewch eich trin yn annheg, prin iawn yw’r sefydliadau y gallwch chi droi atynt.
O’n profiad ni o adolygu contractau yn y diwydiant rheoli gwastraff ac o siarad â chwsmeriaid gyda phrofiad ymarferol, rydym wedi llunio rhestr ddefnyddiol o bethau i’w hystyried yn eich contract.
1.Craffwch ar y Telerau a’r Amodau
Am resymau a gaiff eu hegluro i chi yn yr erthygl hon, dylech ddarllen y Telerau a’r Amodau’n drylwyr. Dyw’r diwydiant ddim wedi cael ei reoleiddio felly pwy a ŵyr pa amodau rhyfedd ac od sydd yn eich Telerau ac Amodau? Dydyn nhw ddim yr hawsaf i’w darllen ac mae’n bosibl y bydd angen ysbienddrych arnoch chi ond byddai hyn yn arbed cur pen i chi yn y dyfodol.
2.Polisi Canslo
Mae’n bosibl mai hwn yw’r rhan bwysicaf o’ch contract. Gallai methu â deall eich hawliau i ganslo gostio cannoedd neu filoedd i chi yn y dyfodol. Felly, hyd yn oed os yw eich contract yn cynnig cyfraddau casglu gwastraff rhatach, unwaith rydych yn ystyried y potensial am gosb canslo, mae’n bosibl na fydd y gost mor effeithiol.
Ar ôl adolygu Telerau ac Amodau’r contractau casglu gwastraff sydd ar gael yn y farchnad heddiw, mae polisïau canslo llawer iawn ohonynt yn llym iawn. Dyw Dyw Dyw rhoi ond yn rhoi mis penodol i chi roi rhybudd. Roedd un o’r contractau y daethom ar ei draws ond yn para am 2 flynedd, gyda’r rhybudd canslo ond yn bosibl ym mis 22 yn unig. O fethu â rhoi rhybudd yn y mis, byddai’r contract yn cael ei ymestyn am 12 mis arall. Mae unrhyw rybudd a roddir y tu allan i’r cyfnod hwn yn arwain at gost sylweddol, fel arfer, 50% o werth y contract.
Rydym yn ymwybodol iawn sut gall y polisïau canslo hyn effeithio ar fusnesau, yn enwedig ar FBChM a dyma pam mai dim ond 90 diwrnod yw hyd ein polisi canslo ni ac mae modd ei weithredu ar waith unrhyw bryd yn ystod eich contract.
3.Newidiadau prisiau posibl
Heb gontract, mae pob amser y potensial y gall prisiau gynyddu. Gellir disgwyl cynnydd mewn prisiau gan mai anwadal iawn yw’r farchnad waredu. Bydd y rhan fwyaf o delerau ac amodau’n nodi bod gan y cwmni’r hawl i gynyddu eu prisiau er mwyn talu costau a does fawr ddim y gallwch chi ei wneud ynghylch hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid bod gennych yr opsiwn i adael, gydag ychydig neu ddim cost os cewch eich hun mewn sefyllfa lle na allwch fforddio’r prisiau.
Yn wahanol i ddiwydiannau eraill fel y sector ynni, prin iawn yw’r contractau casglu gwastraff sy’n cynnig prisiau pendant am gyfnod penodol ac yn aml iawn, gall y prisiau gynyddu yn ystod bywyd eich contract. Mae techneg sy’n cael ei defnyddio yn y diwydiant sydd wedi hen ennill ei phlwyf sef cynnig pris isel iawn i gwsmeriaid newydd ac yna eu cynyddu yn ystod bywyd y contract, er mwyn adfer y disgownt o’r prisiau cychwynnol. Dyma pam ei bod hi’n hanfodol eich bod yn glir ynghylch yr opsiwn i adael y contract os yw’r prisiau’n cynyddu.
Eto, rydym wedi nodi y gall hyn fod yn bryder i fusnesau lleol, ac, rydym ni hefyd yn cynyddu ein prisiau ychydig er mwyn gallu talu cyflogau cynyddol a chostau ymwared. Rydym yn rhoi rhybudd teg i’n cwsmeriaid ynghylch unrhyw gynnydd mewn prisiau ac maen nhw’n dal yn gallu canslo o fewn 90 diwrnod, heb gost gadael ychwanegol. Mae’r hyblygrwydd hwn yn galluogi ein cwsmeriaid i optio allan o’u contract os ydyn nhw’n credu y gallan nhw gael pris gwell gan gwmni arall.
4.Costau Nodyn Trosglwyddo Gwastraff
Mae’n ofyniad cyfreithiol bod gan gynhyrchwyr gwastraff Nodyn Trosglwyddo Gwastraff (WTN) i olrhain symud eu gwastraff fel y’i nodir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (gweler ein tudalen ar Eich Cyfrifoldeb am ragor o fanylion). Pan mae busnes yn llofnodi contract gwastraff i gael gwared ar eich gwastraff, mae’n ofyniad ar y casglwr neu’r cludwr gwastraff i gynhyrchu, storio a chyflwyno’r ddogfen hon i chi. Hefyd, mae disgwyl iddyn nhw gadw’r ddogfen hon yn gyfoes. Gall cynhyrchu’r ddogfen hon a’i darparu i’r cwsmer greu rhywfaint o gostau gweinyddol i’r darparydd felly, mae hyn yn un o amodau’r diwydiant bod y costau hyn yn cael eu hadfer fel ffi WTN yn y contract. Dylai’r gost hon gael ei hesbonio’n glir i chi yn eich contract.
Mae cwmnïau gwastraff yn codi am WTN mewn gwahanol ffyrdd. Gellir codi ffi fach unwaith y mis; mae cwmnïau eraill yn codi ffi unwaith y flwyddyn. Gellir ei seilio ar y nifer y cynwysyddion neu ffi sefydlog, beth bynnag fo’r contract. Mae’r dull o godi cost a chyfanswm y gost yn amrywio ond, er gwaethaf hyn, dylai bod esboniad clir o hyn yn y contract. Wrth gymharu amcanestyniadau ar gyfer contractau, mae’n bendant yn werth cynnwys y ffi WTN neu unrhyw gostau gweinyddu ychwanegol.
5.Costau ychwanegol yn seiliedig ar dunelli
Tric cyffredin arall yn y diwydiant gwastraff yw darparu pris ar gyfer bin codi, sydd fel rheol am bris gweddol resymol, ond mynnwch gafeat fel y gellir ychwanegu cost ychwanegol os yw’r biniau yn drymach na phwysau penodol. Amcangyfrifir y pwysau hyn gydag offer ar y bin codi sy’n pwyso’r biniau cyn eu gwagu.
Gall y gost hon ychwanegol hon ymddangos yn rhesymol ar y dechrau (mae’n gwneud synnwyr y byddwch yn gorfod talu mwy os ydych chi’n cynhyrchu mwy o wastraff), fodd bynnag, gall y costau hyn gynyddu’n gyflym heb brin ddim rheolaeth na rhybudd i’r cwsmer. Gall ei gwneud hi’n anodd i chi ddod i ben. Yn aml, ni chewch unrhyw rybudd os yw’ch biniau’n drymach na’r pwysau a gytunwyd, sy’n golygu y cewch chi sypreis annisgwyl yn eich anfoneb nesaf.
Yng Nghyngor Caerdydd, nid ydym yn codi costau ychwanegol ar gyfer cynwysyddion sydd dros bwysau penodol. Mae gennym ni gyfradd bendant am gasglu y cytunir arni ar ddechrau’r contract. Mae hyn yn golygu y gall ein cwsmeriaid ddarogan eu hanfonebau misol. Mae yna uchafswm o bwysau codi ar gyfer pob bin ond mae hyn am resymau iechyd a diogelwch, ac ni fydd unrhyw gynwysyddion sydd wedi’u llenwi y tu hwnt i’r terfyn a bennwyd yn cael eu gwagu nes bod eu pwysau wedi gostwng.
6.Costau llogi
Wrth gytuno ar gontract sy’n cynnwys biniau, yn aml, mae cost am logi biniau. Unwaith eto, gall y prisiau hyn amrywio o un darparydd i’r llall, felly, mae hi bob amser yn werth cynnwys costau llogi wrth gymharu amcanestyniadau.
Hefyd, mae’n werth ystyried atebolrwydd yn ystod y cyfnod llogi yn y telerau a’r amodau er mwyn gweld beth fyddai’n digwydd pe byddai bin yn mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi. Os yw’ch busnes mewn canol dinas brysur neu ardal fanwerthu, dyw hi ddim mor hawdd i gadw llygad ar eich biniau felly, bydd angen i chi gynnwys hyblygrwydd ar gyfer yr agwedd hon yn y contract. Mae rhai darparwyr yn cynnig yswiriant sy’n ymdrin ag achosion o’r math hyn. Fel arfer, mae cost ychwanegol am hyn felly, unwaith eto, mae’n werth ystyried hyn wrth gymharu amcanestyniadau.
Rydym yn deall ymarferoldeb storfeydd gwastraff ar gyfer busnesau a diffyg rheolaeth unwaith eich bod wedi cyflwyno’r bin ar gyfer ei gasglu. Rydym bob amser yn gweithio gyda chwsmeriaid er mwyn dod o hyd i’r man casglu mwyaf addas, weithiau gan ddefnyddio allweddi neu godau i gael mynediad i storfeydd biniau diogel, fel y gallwn ni geisio osgoi’r sefyllfa lle mae biniau yn diflannu. Mae colli neu ddifrodi bin mor rhwystredig i ni ac y mae i chi, felly, os digwydd hyn, byddwn yn rhoi bin newydd i chi neu’n ei mor gyflym â phosibl.
7.Atebolrwydd am beidio â chasglu
Rhwystredigaeth gyffredin arall gan gwsmeriaid gwastraff yw’r broblem peidio â chasglu. Mewn byd delfrydol, byddai pob cylch casgliad yn cael ei gwblhau ar amser penodol ac ar atodlen reolaidd heb unrhyw rwystrau. Fodd bynnag, fe wyddom nad yw hyn bob amser yn bosibl. Wrth gwrs, bydd yna achosion pan mae cerbydau yn torri i lawr neu mae ffyrdd wedi’u blocio neu mae camgymeriadau’n cael eu gwneud. Dyw hyn ddim wir yn broblem i gwsmeriaid. Y broblem yw diffyg ailgasglu pan mae hyn yn digwydd.
Mae yna sawl contract gwastraff sy’n nodi’n glir yn eu Termau ac Amodau os mae problemau yn codi gyda chasglu, ni fydd disgwyl i’r casglwr ail-gasglu neu bydd ond yn casglu unwaith y cytunir ar gost ychwanegol. Mae’n ddigon posibl y bydd yna lond llaw o achosion pan mae hyn yn lled dderbyniol. Fodd bynnag, mae rhai Telerau ac Amodau’n nodi hyd yn oed os yw’r achosion hyn o fewn rheolaeth y darparwr (h.y. prinder cerbydau neu staff), dyw hi dal ddim yn ddisgwyliad ar y darparydd i ailgasglu.
Mae hon hefyd yn elfen bwysig arall i’w hystyried. Fel rhan o awdurdod lleol, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn onest ac yn deg ac os mai arnom ni mae’r bai am beidio â chasglu eich gwastraff fel y’i cytunwyd, yr unig beth rydym yn gofyn amdano yw amser rhesymol i ailgasglu (48 awr fel arfer) a byddwn yn casglu heb gost os mai ein bai ni yw e.
8.Adolygiadau
Ac yn olaf, y ffordd orau i ddod o hyd i ddarparwr da yw cael adolygiadau personol neu argymhellion gan fusnesau tebyg yn y sector. EwDyw mynd ar y we a darllen byth yn mynd i roi gwir adlewyrchiad i chi o’r busnes dan sylw – dim ond cwsmeriaid anniddig sy’n mynd ati i ysgrifennu adolygiad. Mae gan fusnesau lleol gyfoeth o wybodaeth hefyd felly mae hi’n werth rhwydweithio a chael argymhellion gan bob eraill.
Rydym yn gobeithio’n fawr fod yr wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i’ch busnes. Os hoffech chi gael rhagor o gyngor ar gontractau gwastraff neu broblemau eraill sy’n ymwneud â gwastraff, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn eich helpu.
Comments are closed.