Mae’r haul allan, a’r haf yn nesáu sydd ond yn golygu un peth i’n tîm ni….mae tymor y digwyddiadau ar ein gwarthau.
Bob blwyddyn byddwn yn cynorthwyo gyda rheoli gwastraff digwyddiadau’r ddinas. Doedd y llynedd ddim yn eithriad, pan gawsom y fraint o gydweithio gydag UEFA i ddod â Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd, a oedd yn llwyddiant mawr. Fe wnaethom hefyd helpu gyda ‘r Ŵyl Fwyd a Diod yn y Bae, yr Hanner Marathon, Gŵyl y Gaeaf a nifer o ddigwyddiadau eraill cyffrous.
Eleni rydym wrth ein bodd o gael bod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol, sydd yn dod i Fae Caerdydd fis Awst. Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd y digwyddiad yn llwyddiant.
Rydym yn deall nad oes yr un digwyddiad yr un fath, felly rydym yn ymdrechu i gynnig pecyn rheoli gwastraff personol wedi ei deilwra i bob cwsmer er mwyn sicrhau y gall eu digwyddiad fynd rhagddo mor esmwyth ag y bo modd. Mae ein blynyddoedd o brofiad ac o berthynas waith dda gyda Heddlu De Cymru, Tîm Digwyddiadau’r Cyngor a Phriffyrdd y Cyngor yn ein galluogi i gynnig y cyngor a’r gefnogaeth orau i’n cwsmeriaid.
Felly os ydych chi’n trefnu digwyddiad eleni, peidiwch ag oedi cyn cysylltu i drafod sut y gall Gwastraff Masnachol roi cymorth i chi.
Comments are closed.